Skip to main content

MUSIC COMPETITION WILL GIVE EMERGING ARTISTS A CHANCE TO PERFORM AT ICONIC LONDON VENUE

15th April 2016

Mae'r gystadleuaeth #REMIX21 yn lansio am 12:00pm ar 6 Ebrill 2016 ac yn cau am 11:59 ar 29 Ebrill, a chyhoeddir yr enillwyr ar 6 Mai.

Bydd panel dylanwadol o'r diwydiant cerddorol yn helpu i lansio cystadleuaeth newydd ar gyfer talent newydd mewn cydweithrediad â'r Loteri Genedlaethol.

Bydd dau enillydd lwcus yn cael cynnig cyfle i fod yn brif berfformwyr yng ngŵyl #REMIX21 ar 10 Mai 2016 yn Rich Mix yng nghalon Shoreditch, Llundain.

Byddant yn cael eu gwahodd i berfformio'n fyw mewn digwyddiad ac yn derbyn mentora un i un i ddatblygu'u gyrfa gerddorol gydag arbenigwyr yn y diwydiant megis Sam Eldridge, Rheolwr y Flwyddyn MMF 2012 o UROK Management sy'n cynrychioli'r canwr-cyfansoddwr caneuon-actor-cyfarwyddwr Ben Drew a elwir hefyd yn Plan B, Tom Odell, Jess Glynne; Shan McGinley, cyflwynydd, personoliaeth radio, DJ, gosodwr ffasiwn a rhan ddylanwadol o'r tîm IAMMUSICTV ac Alice Dabell, cynhyrchydd talent ar gyfer Syco Entertainment, cwmni cynhyrchu teledu, ffilm a cherddoriaeth fyd-eang arweiniol Simon Cowell.

Mae #REMIX21 yn ddathliad creadigol o gelf, cerddoriaeth, theatr, ffasiwn a dawns sydd wedi diffinio'r 21 mlynedd ddiwethaf o ariannu'r Loteri Genedlaethol. Bydd y digwyddiad trochi, am ddim i'r rhai rhwng 18-25 oed, hefyd yn arddangos y nifer anferth o brosiectau amrywiol y mae'r Loteri Genedlaethol wedi'u hariannu a'r creadigedd y mae wedi'i meithrin ar hyd y ffordd.

Mae'r gystadleuaeth ar-lein yn gwahodd ymgeiswyr i sbarduno eu gyrfa gerddorol yn syml trwy uwchlwytho fideo yn perfformio trac gwreiddiol ar YouTube. Y fideo â'r nifer fwyaf o hoffterau fydd yn ennill y prif slot yn y digwyddiad gyda'r 21 cais uchaf yn ymddangos ar restr chwarae sianel YouTube Achosion Da'r Loteri. Cyhoeddir dau enillydd lwcus erbyn 6 Mai a byddant yn derbyn:

  • Slot un o'r prif artistiaid yng ngŵyl REMIX21
  • Costau llawn wedi'u talu iddynt hwy a gwestai i fynd i'r digwyddiad
  • Cefnogaeth cynhyrchiad llwyfan llawn
  • Amser un i un gyda phob aelod o'r panel diwydiant cerddorol arbenigol.

Dywedodd Sam Eldridge: “Mae hwn yn gyfle gwych i artist newydd i gael ei weld a'i glywed. Rwy'n falch iawn o fod yn gysylltiedig â #REMIX21 a helpu i roi cyngor ac arweiniad i rywun sy'n dod â rhywbeth ffres a gwreiddiol i'r diwydiant cerddorol. Mwynhewch, ewch amdani a bachwch ar y cyfle hwn i gael sylw."

Dywedodd Shan McGinley: "Rwy'n cadw golwg am artist sy'n cynnig egni gwirioneddol na allwch chi ei anwybyddu! Mae #REMIX12 yn ymwneud â cheisio gwireddu'ch breuddwydion ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei werthfawrogi'n fawr mewn unrhyw unigolyn. Dangoswch eich talent!!!"

Ychwanegodd Jackie O’ Sullivan, y Loteri Genedlaethol: “Yn 2014/2015 buddsoddodd y Loteri Genedlaethol £1.2 biliwn i mewn i dros 20,000 o brosiectau ar gyfer pobl ifanc rhwng 18-25 oed. Bydd y digwyddiad #REMIX21 yn dod â'r cyfleoedd a'r profiadau rhyfeddol a wneir yn bosibl gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn fyw ac mae'n argoeli i fod yn achlysur gwych."

I gymryd rhan yn y gystadleuaeth ewch i www.lotterygoodcauses.org.uk/remix21

Am wybodaeth bellach am gymryd rhan neu gofrestru i fynychu'r digwyddiad, ewch i www.lotterygoodcauses.org.uk/remix21

Diwedd

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau i Olygydd:

  1. Mae #REMIX21 yn ddigwyddiad dathliadol yn cyflwyno'r 21 mlynedd ddiwethaf o brosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol wrth ddathlu talent y dyfodol. Gellir cofrestru am ddim i'r digwyddiad ar gyfer y rhai rhwng 18 a 25 oed ac fe'i cynhelir ar 10 Mai 2016, 6-11pm yn Rich Mix, Llundain, E1 6LA. Bydd y digwyddiad yn cyflwyno cyfres o dalent newydd y DU, gyda phob un o'r 21 mlynedd wedi'u cynrychioli gan 21 o ddarnau creadigol, ochr yn ochr â'r dalent gerddorol ddiweddaraf, a fydd yn dod ynghyd ar gyfer un profiad gŵyl fawr.

  1. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi codi mwy na £34 biliwn dros brosiectau celfyddydau, addysg, amgylcheddol, iechyd, treftadaeth, chwaraeon a gwirfoddol ar draws y DU er 1994; gweler y gwahaniaeth mae'n ei wneud yn eich ardal chi yn www.achosiondayloteri.org.uk

Am wybodaeth bellach i'r wasg cysylltwch â: Sunita Sharma, Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau ar +44 (0)7974 779 210 neu sunita@somewhereto.org