Mae Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol yn ôl!
Mae Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol 2027 yn cael ei chynnal rhwng 13 a 21 Mawrth 2027!
Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol yw ein ffordd ni o ddweud diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am yr arian maen nhw’n ei godi ar gyfer Achosion Da. Mwynhewch fynediad am ddim, gostyngiadau a chynigion arbennig mewn lleoliadau sy’n cael eu hariannu gan y Loteri Genedlaethol ac sy’n cymryd rhan drwy gydol yr wythnos.
Gyda channoedd o leoliadau a gweithgareddau i ddewis ohonynt ledled y DU, mae digon o ddiwrnodau allan am ddim neu am gost isel i edrych ymlaen atynt, gan gynnwys y cyfle i:
- Durio i mewn i’r gorffennol mewn tai hanesyddol, cestyll ac amgueddfeydd.
- Cofleidio natur yn ei holl ogoniant mewn nifer o lefydd gwych i fywyd gwyllt.
- Ail-fyw eiliadau eiconig mewn lleoliadau chwaraeon enwog
- Darganfod mwy am brosiectau cymunedol lleol
- Mwynhau ysbeidiau diwylliannol mewn orielau celf a theatrau led led y DU
- Ddysgu sgil newydd neu ddod o hyd i ddiddordeb newydd mewn amrywiaeth o weithdai a sesiynau blasu