Skip to main content

Baroness Tanni Grey-Thompson honoured with National Lottery Lifetime Achievement Award

15th Hydref 2019

Cafodd y Farwnes Tanni Grey-Thompson, un o athletwyr Para Olympaidd gwychaf Prydain, ei anrhydeddu gyda Gwobr Cyflawniad Oes arbennig yn ystod Gwobrau Pen-blwydd 25 Mlynedd y Loteri Genedlaethol neithiwr yn Llundain.

Gwobrau Pen-blwydd 25 Mlynedd y Loteri Genedlaethol yw’r ymgyrch flynyddol i ganfod hoff bobl a phrosiectau’r DU a ariennir gan y Loteri Genedlaethol ac sy’n dathlu gorchestion ysbrydoledig pobl gyffredin sy’n gwneud pethau rhyfeddol gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol.

Gan fyfyrio ar etifeddiaeth 25 mlynedd y Loteri Genedlaethol, dyma’r tro cyntaf mae’r Loteri Genedlaethol wedi cyflwyno Gwobr Cyflawniad Oes i unigolyn. Mae’r acolâd yn anrhydeddu ac yn cydnabod unigolyn neilltuol sydd wedi derbyn cefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol ac wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol tuag at gymdeithas dros nifer o flynyddoedd.

Cyflwynwyd y wobr i’r Farwnes Tanni Grey-Thompson, yr athletwraig sy’n enedigol o Gaerdydd, gan Syr Chris Hoy MBE, yr arwr Olympaidd, ac athletwr Olympaidd mwyaf cyd-lwyddiannus Prydain Fawr erioed.

Yn ystod ei gyrfa chwaraeon cystadleuol a hyglod, mae’r Farwnes Tanni Grey-Thompson wedi cronni casgliad anhygoel o fedalau dros 16 o flynyddoedd. Enillodd gyfanswm o 16 medal Para Olympaidd, gan ddal 30 o Recordiau’r Byd, ac ennill Marathon Llundain chwe gwaith. Fe’i cefnogwyd trwy Raglen Safon Fyd-eang a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol, sy’n cyflwyno gwasanaethau hyfforddiant, addysg, a chefnogaeth gyda chystadlaethau, gwasanaethau meddygol, technoleg a gwyddonol. Wedi ei hymddeoliad o gystadlu yn 2007, daeth yn gyflwynydd teledu ac yn hyfforddwraig a mentor i athletwyr ifanc, yn anabl ac yn bobl nad ydynt yn anabl.

Wedi graddio mewn gwleidyddiaeth, mae wedi bod yn weithgar mewn bywyd cyhoeddus, gan weithio o fewn chwaraeon a gweinyddiaeth gyhoeddus. Wedi derbyn teitl Bonesig yn 2005, fe ddaeth yn arglwyddes am oes fel y Farwnes Grey-Thompson yn 2010. Mae’n eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi, gan gyfrannu’n weithgar tuag at waith y Tŷ a chynrychioli hawliau’r sawl sy’n wynebu rhwystrau ac adfyd.

Dywedodd y Farwnes Tanni Grey-Thompson, a oedd wrth ei bodd i dderbyn y wobr: “Rwyf wrth fy modd ac mae’n anrhydedd gwirioneddol i gael fy enwi yn dderbynnydd cyntaf erioed Gwobr Cyflawniad Oes y Loteri Genedlaethol. Mae fy niolch yn fawr i’r Loteri Genedlaethol am fy nghefnogi yn ystod fy ngyrfa fel athletwaig ac am fy helpu i gyflawni fy mreuddwydion o fewn byd y campau ac i ysbrydoli eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon. Nid yn unig yr oedd cyflwyno arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer athletwyr yr holl flynyddoedd hynny’n ôl wedi caniatáu i mi ganolbwyntio ar yr hyn yr oeddwn yn caru ei wneud ac i gyrraedd fy mhotensial llawn, ond roedd wedi helpu hefyd i chwyldroi chwaraeon Para Olympaidd ar draws y bwrdd. Hoffwn estyn fy niolch diffuant i’r Loteri Genedlaethol am fy enwebu ar gyfer yr acolâd anhygoel hwn.”

Dywedodd Syr Chris Hoy MBE, a gyflwynodd y Wobr: “Mae hi wedi bod yn fraint cyflwyno Gwobr Cyflawniad Oes i’r Farwnes Tanni Grey-Thompson. Mae hi wedi saernio ei hunan fel un o’n heiconau chwaraeon mwyaf ac mae’n drysor cenedlaethol sydd wedi cyflawni pethau aruthrol o fewn chwaraeon a gwleidyddiaeth. Roedd ei llwyddiannau niferus ymysg y cyntaf o’i fath yn y byd. Mae hi’n arwres wirioneddol sydd wedi dileu cymaint o rwystrau o fewn chwaraeon i’r anabl ac wedi bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i genedlaethau o athletwyr led led y DU a’r byd.”

Yn ystod Gwobrau Pen-blwydd 25 Mlynedd y Loteri Genedlaethol, ymunodd y Farwnes Tanni Grey-Thompson â llu o sêr o fyd y llwyfan a’r sgrîn, a phrosiectau a phobl a ariennir gan y Loteri Genedlaethol o bob cwr o’r DU. Ffilmiwyd y sioe yn Stiwdios White City y BBC yn Llundain a chaiff ei darlledu ar BBC UN ar ddydd Mawrth 19 Tachwedd.

Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi codi mwy na £40 biliwn tuag at achosion da ym meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth a chymuned dros y 25 mlynedd diwethaf. Mae mwy na 565,000 o grantiau’r Loteri Genedlaethol wedi’u gwobrwyo ers 1994, sy’n cyfateb i tua 200 o brosiectau sy’n newid bywydau ym mhob rhanbarth cod post yn y DU gan helpu i atgyfnerthu cymunedau, cyflwyno llwyddiant ym myd y chwaraeon, datgloi doniau creadigol a gofalu am yr henoed a’r sawl sy’n agored i berygl.

Nodiadau i olygyddion

Am ragor o wybodaeth a delweddau pellach, cysylltwch ag: oswyn.hughes@lotterygoodcauses.org.uk: 07976 324 179