Skip to main content

#AddunedByd

Rhwng 19 a 23 Ebrill, mae’r Loteri Genedlaethol yn gwahodd dosbarthwyr, prosiectau, gwirfoddolwyr, mudiadau ac unigolion sy’n codi arian, athletwyr a chwaraewyr i wneud #AddunedByd ar gyfryngau cymdeithasol fel rhan o ymgyrch i hyrwyddo achosion da amgylcheddol.

Yn ystod un wythnos o weithgareddau digidol a chysylltiadau cyhoeddus, bydd teulu’r Loteri Genedlaethol yn cyhoeddi bod £2.2 biliwn o arian wedi mynd tuag at achosion da amgylcheddol yn ystod y degawd diwethaf, gan arddangos a rhoi sylw i rai o’r prosiectau a sefydliadau anhygoel sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth i’r blaned gyda’u harian.


Fel prosiect sydd wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol, rydych yn rhan o rwydwaith anhygoel o fwy na 110,000 o sefydliadau sydd wedi newid bywydau pob dydd. Os gallai’r holl sefydliadau hyn wneud #AddunedByd sy’n syml ac yn hawdd i’w chyflawni, fe fyddai’n gwneud cyfraniad hanfodol tuag at ddyfodol ein planed.

Sut allaf gymryd rhan?
Mae ymuno yn hawdd. Rydym yn gofyn i chi ddod â’ch cefnogwyr ynghyd – gan gynnwys unrhyw rai o’ch gwirfoddolwyr, staff, defnyddwyr gwasanaeth – gan feddwl am y gofynion canlynol:

Fel prosiect, meddyliwch am addewid y gall eich sefydliad ei gwneud a’i chyflawni a’r hyn y gallwch ei wneud hefyd fel unigolyn. Does dim rhaid i hyn fod yn ymrwymiad mawr nac yn newid polisi, mae addewidion bychain neu bethau yr ydych yn eu gwneud eisoes ond nad ydych wedi rhoi sylw mawr iddynt yn cael eu hannog.
Rhwng 19 a 23 Ebrill, postiwch eich addewid ar gyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio’r hashnodau #AddunedByd #LoteriGenedlaethol.

Rydym yn deall y bydd addewidion yn amrywio gan ddibynnu ar eich sector neu drefniadau eich sefydliad, ond mae rhai enghreifftiau posibl o addewidion y gallech eu gwneud yn cynnwys:

Addewidion i Brosiectau:

‘Rydym yn addo annog y defnydd o boteli dŵr y gellir eu hailddefnyddio yn ein swyddfa/adeilad ac yn dweud na i boteli plastig un defnydd. #AddunedByd #LoteriGenedlaethol’


‘Rydym yn addo gosod bin compost ar ein safle, i sicrhau fod ein gwastraff bwyd yn cefnogi tyfu planhigion a choed, yn hytrach na mynd i safleoedd tirlenwi. #AddunedByd #LoteriGenedlaethol’

‘Rydym yn addo rhoi cymhelliant i’n staff a’n gwirfoddolwyr i seiclo neu gerdded i’r gwaith, yn hytrach na defnyddio eu cerbydau. #AddunedByd #LoteriGenedlaethol’

‘Rydym yn addo gwneud ailgylchu yn haws ar gyfer y cyhoedd yn ystod ymweliadau â’n mannau gwyrdd. #AddunedByd #LoteriGenedlaethol’


Addewidion i Unigolion:

‘Rwy’n addo troi fy holl ddyfeisiau i ffwrdd unwaith y byddant wedi’u gwefru’n llwyr gan beidio â gadael iddynt redeg dros nos. #AddunedByd #LoteriGenedlaethol’

‘Rwy’n addo defnyddio fy nghar llai a cherdded lle y gallaf #AddunedByd #LoteriGenedlaethol’

‘Rwy’n addo y byddaf yn newid fy holl fylbiau golau i rai ynni effeithiol dros yr ychydig fisoedd nesaf #AddunedByd #LoteriGenedlaethol’


I helpu gyda phostio eich negeseuon cymdeithasol, edrychwch ar ein pecyn cymorth digidol yma
– bydd mwy o asedau’n cael eu hychwanegu dros yr ychydig fisoedd nesaf. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys rhai enghreifftiau o’r addewidion y byddwch o bosibl yn dymuno eu gwneud a’u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, a thempled #AddunedByd er mwyn i chi ychwanegu addewid eich hunan – y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ychwanegu’r testun, y gallwch ei wneud trwy feddalwedd diwygio graffeg, neu raglen megis Paint.

Fe fyddwn hefyd yn eich annog i rannu delweddau eich hunain, megis y gweithredoedd amgylcheddol yr ydych yn cael eu cyflawni eisoes o bosibl ynghyd â’ch #AddunedByd. Os ydych yn cael unrhyw anawsterau gyda’r pecyn cymorth neu fod angen help arnoch wrth greu eich post #AddunedByd, cysylltwch â’n tîm Cyfryngau Cymdeithasol ar social@lotterygoodcauses.org.uk.

Gallwch gadw llygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol rhwng 19 a 23 Ebrill am ychydig o ysbrydoliaeth ar gyfer eich addewidion. Fel rhan o’n cyfres fideo, mae Rosie Ramsey, y gomediwraig a phodlediwr yn dysgu sut i wneud ychydig o newidiadau syml oddi wrth brosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol i helpu’r amgylchedd!.

Individual Promises:

‘I promise to switch off all my devises once fully charged and not leave running overnight #PlanetaryPromise #NationalLottery’

‘I promise to use my car less and walk where I can #PlanetaryPromise #NationalLottery’

‘I promise that I will be changing all my light bulbs to energy efficient ones over the next few months #PlanetaryPromise #NationalLottery’


To help with your social posts, please see a link to a digital toolkit here – more assets will be added over the next few weeks The toolkit includes some examples of promises you may wish to use and share on social media, and a #PlanetaryPromise template for you to add your own promise – you just need to add the text, which you can do via graphic editing software, or a programme like Paint.

We also encourage you to share your own images, perhaps of environmental actions you’re already taking along with your #PlanetaryPromise. If you have any issues with the toolkit or need any help creating your #PlanetaryPromise post, please drop our Social Media Team a line on social@lotterygoodcauses.org.uk.

You can also keep an eye out on our social channels between the 1st and 15th of November for some inspiration for your promises. As part of our video series, comedian and podcaster Rosie Ramsey learns from National Lottery-funded projects, how to make some simple changes to help the environment!